Ysgol Bro Dinefwr

Esgyn ar adain dysg
Life at Ysgol Bro Dinefwr Life at Ysgol Bro Dinefwr Life at Ysgol Bro Dinefwr Life at Ysgol Bro Dinefwr Life at Ysgol Bro Dinefwr Life at Ysgol Bro Dinefwr

Hoci dan 16 Gemau Cenedlaethol Terfynol

Yr wythnos ddiwethaf teithiodd tîm hoci dan 16 i’r Drenewydd i chwarae yn y Gemau Cenedlaethol Terfynol a ad-drefnwyd.

Yn y gemau cylch chwaraeodd y tîm beth hoci eithriadol o dda gan drechu Ysgol Uwchradd Porthcawl 5-0, Brynhyfryd 3-0 a Llandeilo Ferwallt 2-0.

Felly aethant ymlaen i’r rownd gynderfynol lle chwaraeon nhw Goleg Crist ac er gwaethaf rhoi pwysau methon nhw sgorio gôl. Felly aeth y gêm i saethiadau penalti a chollodd y tîm 3-1. 

Gallant fod yn hynod falch o’r modd y chwaraeon nhw gan gyrraedd y trydydd safle yng ngemau terfynol Cymru.

Da iawn merched!